Sefydlogrwydd Cynnar Cymru

Teulu yn gweini pryd o fwyd

Sefydlogrwydd Cynnar Cymru (SCC) yw’r term ymbarél a roddir i’r arfer o leoli plant gyda darpar rieni mabwysiadol sydd hefyd wedi’u cymeradwyo fel gofalwyr maeth dros dro.

Ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol

Sefydlogrwydd Cynnar Cymru yw’r opsiwn cynllunio gofal sy’n darparu lleoliad diogel i blentyn cyn gynted â phosibl, pan fo wythnosau a misoedd wir yn bwysig; mae’n galluogi datblygiad ymennydd ac ymlyniad iach trwy berthnasoedd diogel, disgwyliadwy ag oedolion sensitif, ac yn lleihau symud gofidus sy’n achosi trawma pellach.

Mae SCC yn faes ymarfer sy’n tyfu yng Nghymru, wedi’i ategu gan fframwaith SCC.

Mae ein fframwaith cenedlaethol (a gynhyrchwyd gan AFKA Cymru ar ran y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol) ynghyd â’r holl ddogfennau ategol sydd eu hangen arnoch wrth feddwl am gynllunio gofal i’w gweld isod.

Dysgu ymarfer SCC: Trafodaeth Broffesiynol

Ffilmiwyd y cyfweliad hwn ym mis Ebrill 2023, i rannu profiadau rheoli achosion SCC yng Nghymru. Mae’n cynnwys myfyrdodau gweithwyr cymdeithasol mabwysiadu, maethu a gofal plant sydd wedi cefnogi plentyn o dan gynllun gofal SCC, ynghŷd â gofalwyr SCC Laura a Jonny.

Nod y fideo hwn yw rhoi cipolwg i ymarferwyr a thimau sy’n ystyried datblygu SCC yn eu maes gwasanaeth. Mae’n cynnig cyfle i glywed yn uniongyrchol yr elfennau cadarnhaol o gefnogi cynllun gofalwyr SCC a’r heriau a all godi ar hyd y daith.

Adnoddau ar gyfer gweithwyr professiynol SCC y gellir eu lawrlwytho

Mae gennym nifer o adnoddau fel rhan o Sefydlogrwydd Cynnar Cymru: Fframwaith ar gyfer Ymarfer.

Gellir dod o hyd iddynt YMA ac anogir ymarferwyr i ddefnyddio’r deunyddiau hyn i gefnogi eu hymarfer.

Rhinweddau a sgiliau mabwysiadu ffranwaith

Rhinweddau a sgiliau mabwysiadu ffranwaith

NAS logo

Adnoddau i'w lawrlwytho ar gyfer gweithwyr proffesiynol

Adnoddau WEP y gellir eu lawrlwytho ar gyfer gweithwyr proffesiynol

Adnoddau i'w lawrlwytho ar gyfer gweithwyr proffesiynol
NAS logo

Canllawiau arfer da

Canllawiau arfer da
NAS logo

Hyfforddiant mabwysiadu modern

Hyfforddiant mabwysiadu modern