Pwy ydyn ni
Sefydlwyd Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru i ddarparu a gwella gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru.
Mae gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol Cymru yn gweithio gyda’i gilydd o fewn strwythur 3 haen sy’n cynnwys partneriaethau ar bob lefel gyda’r Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, Gwasanaethau Iechyd ac Addysg ac eraill.
Ein blaenoriaeth ar hyn o bryd yw gwella gwasanaethau cymorth mabwysiadu wrth i ni barhau i weithredu’r ‘Fframwaith ar gyfer Cymorth Mabwysiadu’ ochr yn ochr â mentrau eraill megis Sefydlogrwydd Cynnar Cymru.
Ar lefel awdurdodau lleol, mae’r 22 o gynghorau yng Nghymru yn darparu gwasanaethau i bob plentyn sy’n derbyn gofal tra’n adnabod ac yn gweithio gyda’r plant hynny ble mae cynllun mabwysiadu yn briodol ar eu cyfer.
Yn rhanbarthol, mae awdurdodau lleol yn cydweithio o fewn pum menter gydweithredol ranbarthol i ddarparu nifer o wasanaethau mabwysiadu. Mae gan bob cydweithrediad rhanbarthol gysylltiadau â’r asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol, iechyd ac addysg. Mae’r gwasanaethau a ddarperir yn amrywio ym mhob grŵp cydweithredol, ond mae pob un yn darparu swyddogaethau asiantaeth fabwysiadu ar gyfer plant. Ar hyn o bryd, mae rhai grwpiau yn darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu uniongyrchol, ond gyda grwpiau eraill, mae hyn yn parhau i ddigwydd drwy eu hawdurdodau lleol.
Yn genedlaethol, mae Cyfarwyddwr NAS a thîm canolog bach, a gynhelir gan Gyngor Dinas Caerdydd ar ran yr holl awdurdodau lleol, yn ysgogi gwelliant, cysondeb a chydgysylltu. Ers mis Medi 2015 mae’r tîm canolog hefyd wedi rheoli Cofrestr Mabwysiadu Cymru ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Y tîm canolog
Suzanne Griffiths
Cyfarwyddwr NAS
Corienne Strange
Pennaeth Polisi, Ymarfer a Chyfathrebu
Nikki Kingham
Pennaeth Busnes a Galluogi
Gwag
Rheolwr Datblygu Cefnogaeth Mabwysiadu
Hannah Jones
Rheolwr Ymarferydd Cofrestr Mabwysiadu
Laura Betts
Cydlynydd Prosiect Sefydlogrwydd Cynnar Cymru
Caiff y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ei oruchwylio gan Fwrdd Llywodraethu a Grŵp Cynghori. Yn 2024, sefydlwyd Cyd-bwyllgor fel bod gan bob un o’r 22 awdurdod lleol drosolwg drwy aelodau o’r cynghorau. Ar lefel leol, mae Pwyllgorau Rheoli Rhanbarthol yn goruchwylio’r gwasanaethau rhanbarthol. Mae’r gwasanaeth yn adrodd i Weinidogion Cymru ddwywaith y flwyddyn.