Polisi preifatrwydd
Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol (“ni”, “ein”) yn defnyddio’r data personol rydym yn casglu gennych chi pan fyddwch yn defnyddio’r wefan hon (https://www.adoptcymru.com).
Pa ddata ry’n ni’n ei gasglu?
Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn casglu’r data canlynol:
- Enw cyntaf
- Cyfenw
- Rhif ffôn
- Cyfeiriad e-bost.
Sut ry’n ni’n casglu eich data?
Rydych chi’n darparu’r rhan fwyaf o’r data rydyn ni’n ei gasglu yn uniongyrchol i’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Rydym yn casglu ac yn prosesu data pan fyddwch yn:
- Cofrestru ar gyfer y dudalen Aelod
- Cyflwyno ffurflen i wneud ymholiad mabwysiadu
- Defnyddio neu’n edrych ar ein gwefan trwy gwcis eich porwr.
Sut byddwn yn defnyddio eich data?
Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn casglu eich data fel prosesydd at y diben canlynol:
- Anfon ymholiadau mabwysiadu ymlaen at awdurdodau lleol ac asiantaethau mabwysiadu cenedlaethol yng Nghymru.
Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn casglu eich data fel rheolydd at y diben canlynol:
- Caniatáu mynediad i fannau ar gyfer aelodau yn unig.
Sut ydyn ni’n storio’ch data?
Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn storio’ch data’n ddiogel mewn canolfan ddata DigitalOcean UK sydd wedi’i hardystio i safon ISO/IEC 27001:2013 ryngwladol.
Bydd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn cadw eich enw a’ch cyfeiriad e-bost am gyfnod o ddeuddeg mis.
Marchnata
O bryd i’w gilydd, mae’n bosibl y bydd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn anfon gwybodaeth atoch chi yr ydyn ni’n credu sy’n ddefnyddiol.
Os ydych chi wedi cytuno i dderbyn deunyddiau marchnata, gallwch optio allan yn ddiweddarach.
Mae gennych yr hawl i atal y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol rhag cysylltu â chi at ddibenion marchnata neu basio eich data i’n partneriaid, ar unrhyw adeg.
Os nad ydych chi am i ni gysylltu â chi at ddibenion marchnata mwyach, anfonwch e-bost at contact@adoptcymru.com.
Beth yw eich hawliau diogelu data?
Hoffai’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o’ch holl hawliau pan mae’n dod i ddiogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i’r canlynol:
Yr hawl i gael mynediad – Mae gennych hawl i ofyn i’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol am gopïau o’ch data personol.
Yr hawl i gywiro – Mae gennych hawl i ofyn i’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol gywiro unrhyw wybodaeth yr ydych chi’n credu sy’n anghywir. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol gwblhau gwybodaeth yr ydych chi’n credu sy’n anghyflawn.
Yr hawl i ddileu – Mae gennych hawl i ofyn i’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ddileu eich data personol, o dan amodau penodol.
Yr hawl i gyfyngu ar brosesu – Mae gennych hawl i ofyn i’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol gyfyngu ar brosesu eich data personol, o dan amodau penodol.
Yr hawl i wrthwynebu prosesu – Mae gennych yr hawl i wrthwynebu i’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol brosesu eich data personol, o dan amodau penodol.
Yr hawl i gludadwyedd data – Mae gennych hawl i ofyn i’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol drosglwyddo’r data rydym wedi’i gasglu i sefydliad arall, neu’n uniongyrchol atoch chi, o dan amodau penodol.
Gallwch wneud cais i gael mynediad at eich gwybodaeth ar-lein. Gallwch hefyd ofyn am fynediad i’ch gwybodaeth drwy lenwi’r ffurflen berthnasol a’i hanfon drwy’r post at:
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraethu GwybodaethNeuadd y SirGlanfa IweryddCaerdyddCF10 4UW
Mae rhagor o wybodaeth a ffurflenni ar gael ar https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Diogelwch-data-a-Rhyddid-Gwybodaeth/Diogelu-Data/Pages/default.aspx
Cwcis
Ffeiliau testun yw cwcis a osodir ar eich cyfrifiadur i gasglu gwybodaeth log Rhyngrwyd safonol a gwybodaeth am ymddygiad ymwelwyr. Pan fyddwch chi’n ymweld â’n gwefannau, efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth yn awtomatig trwy gwcis neu dechnoleg debyg
Am ragor o wybodaeth, ewch i allaboutcookies.org.
Sut ry’n ni’n defnyddio cwcis?
Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn defnyddio cwcis mewn nifer o ffyrdd i wella eich profiad ar ein gwefan, gan gynnwys:
- I’ch cadw wedi mewngofnodi
- I ddeall sut rydych chi’n defnyddio ein gwefan
Pa fathau o gwcis ydyn ni’n eu defnyddio?
Mae yna nifer o wahanol fathau o gwcis, serch hynny, mae ein gwefan yn defnyddio:
- Ymarferoldeb – Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn defnyddio’r cwcis hyn fel ein bod yn eich adnabod ar ein gwefan ac yn cofio’ch dewisiadau blaenorol. Gallai’r rhain gynnwys pa iaith sydd orau gennych a’ch lleoliad. Defnyddir cymysgedd o gwcis parti cyntaf a thrydydd parti.
- Hysbysebu – Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn defnyddio’r cwcis hyn i gasglu gwybodaeth am eich ymweliad â’n gwefan, y cynnwys i chi weld, y dolenni y gwnaethoch eu dilyn a gwybodaeth am eich porwr, dyfais, a’ch cyfeiriad IP. Weithiau bydd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn rhannu rhai agweddau cyfyngedig ar y data hwn gyda thrydydd partïon at ddibenion hysbysebu. Efallai y byddwn hefyd yn rhannu data ar-lein a gasglwyd trwy gwcis gyda’n partneriaid hysbysebu. Mae hyn yn golygu, pan fyddwch yn ymweld â gwefan arall, efallai y caiff hysbysebion eu harddangos yn seiliedig ar eich patrymau pori ar ein gwefan.
Sut i reoli cwcis
Gallwch osod eich porwr i beidio â derbyn cwcis, ac mae’r wefan uchod yn dweud wrthych sut i ddileu cwcis o’ch porwr. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, efallai na fydd rhai o nodweddion ein gwefan yn gweithio o ganlyniad i hyn.
Polisïau preifatrwydd gwefannau eraill
Mae gwefan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Mae ein polisi preifatrwydd yn berthnasol i’n gwefan ni yn unig, felly os y cliciwch ar ddolen i wefan arall, dylech ddarllen eu polisi preifatrwydd nhw.
Newidiadau i’n polisi preifatrwydd
Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn adolygu ei bolisi preifatrwydd yn rheolaidd ac yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 18 Ionawr 2020.
Sut i gysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am bolisi preifatrwydd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, y data sydd gennym amdanoch, neu os hoffech arfer un o’ch hawliau diogelu data, mae croeso i chi gysylltu â ni.
E-bostiwch ni yn: contact@adoptcymru.com
Ffoniwch ni: 029 2087 3927
Neu ysgrifennwch at: Ystafell 409, Neuadd y Sir, Glanfa Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW
Sut i gysylltu â’r awdurdod priodol
Os hoffech roi gwybod am gwyn neu os ydych yn teimlo nad yw’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol wedi mynd i’r afael â’ch pryder mewn modd boddhaol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: https://ico.org.uk/