Mabwysiadu a’ch busnes

Gwybodaeth i gyflogwyr

Mae yna lawer o ffyrdd i gefnogi mabwysiadu yn eich busnes, ac nid oes rhaid iddo fod yn ddrud na chymryd llawer o amser. Mewn gwirionedd, gall helpu eich busnes i dyfu trwy ddenu a chadw’r dalent orau bosibl.

Beth sy’n gwneud busnes yn gyfeillgar tuag at fabwysiadu?

Mae mynd drwy’r broses fabwysiadu yn gofyn am ymrwymiad, amser, ffocws, ac yn bwysicaf oll, cefnogaeth gan deulu, ffrindiau a chyflogwyr.

Dyma rai enghreifftiau o arfer gorau ac os ydych yn gwneud rhai neu bob un o’r rhain, yna byddem yn eich ystyried yn fusnes sy’n ystyriol o fabwysiadu.

Family

Polisïau rhianta cyfartal sy’n amlinellu’n glir y cymorth i rieni sy’n mabwysiadu a’r rhai sy’n mynd drwy’r broses fabwysiadu.

Teulu

Polisi mabwysiadu sy’n cynnwys amser i ffwrdd ar gyfer hyfforddiant, asesu, paneli a chyflwyniadau.

Family

Polisi mabwysiadu sy’n cynnwys cymorth i rieni pan nad yw’r mabwysiadu’n llwyddiannus, sy’n debyg i’r cymorth a ddarperir i’r rhai sy’n profi camesgoriad.

Family

Polisi mabwysiadu sy’n caniatáu hyblygrwydd ychwanegol ar ôl lleoli ac sy’n cydnabod y gall magu plant sydd wedi cael dechrau anodd mewn bywyd fod yn fwy beichus i rieni ac felly efallai y bydd angen mwy o amser.

Cysylltwch â ni i gael eich bathodyn busnes sy’n ystyriol o fabwysiadu.

Pecyn cymorth mabwysiadu a’ch busnes

Er mwyn cynorthwyo busnesau i ddarparu’r cymorth priodol i’w gweithwyr, rydym wedi datblygu pecyn cymorth cyflogwr. Mae’r canllaw rhad ac am ddim hwn yn grymuso cyflogwyr i gynorthwyo darpar fabwysiadwyr a mabwysiadwyr cymeradwy, o fewn a thu hwnt i’w busnes.

Mae ein pecyn cymorth yn rhoi cyfeiriad a chymorth, gan gynnwys gwybodaeth ar y canlynol:

  • Cefnogi mabwysiadu yn eich gweithle
  • Absenoldeb rhiant i rieni sy’n mabwysiadu
  • Dangos eich cefnogaeth i fabwysiadu ar-lein
  • Helpu rhieni newydd
  • Trafod mabwysiadu gyda’ch cyflogeion

Ymunwch â ni i sicrhau triniaeth deg i rieni mabwysiadol yn y gweithle.

Lawrlwythwch y pecyn cymorth mabwysiadu a’ch busnes.

NAS logo

Adnoddau defnyddiol

Adnoddau defnyddiol

Adnoddau defnyddiol
NAS logo

Darllen may

Darllenwch fwy am y broses fabwysiadu

Darllen may
NAS logo

Cwestiynau cyffredin

Cwestiynau cyffredin am fabwysiadu

Cwestiynau cyffredin