Hyfforddiant Mabwysiadu Modern
Gwneud y penderfyniadau cywir ar gyfer pob plentyn
Mae sicrhau sefydlogrwydd i blant yn egwyddor sylfaenol o’r fframwaith deddfwriaethol yng Nghymru ac o bob ymarfer gwaith cymdeithasol gyda phlant a theuluoedd.
Mae dewis y math cywir o sefydlogrwydd mor bwysig. Mae’n dibynnu ar ddealltwriaeth gadarn a dadansoddiad o anghenion ac amgylchiadau’r plentyn, yn ogystal â’r gwahanol opsiynau sefydlogrwydd sydd ar gael a’r hyn y maent yn ei gynnig yn yr hir-dymor.
Er mwyn gwneud y penderfyniad cywir ar gyfer pob plentyn, rhaid i ni ystyried opsiynau realistig ar gyfer sefydlogrwydd ac yn y pen draw a fydd yr opsiwn hwn yn darparu’r rhianta sydd ei angen i ddiwallu anghenion y plentyn a’i helpu i adfer o drawma – nid yn unig nawr ond drwy ei oes.
I rai plant, gellir sicrhau sefydlogrwydd trwy ddychwelyd i’w teulu yn llwyddiannus, lle bu’n bosibl mynd i’r afael â’r ffactorau ym mywyd y teulu a arweiniodd at y plentyn yn derbyn gofal. Ar gyfer eraill, gall llwybrau tuag at sefydlogrwydd gynnwys gofal a ddarperir gan deulu a ffrindiau, yn enwedig pan fydd gorchymyn cyfreithiol yn gallu cefnogi gofal o’r fath.
Ac i rai plant nad ydynt yn gallu dychwelyd at eu rhieni, eu teulu neu gymuned ehangach, mae mabwysiadu’n cynnig teulu newydd parhaol gydol oes mewn modd cyfreithiol.
Cynlluniwyd y modiwl hyfforddi canlynol i ddarparu trosolwg o’r system fabwysiadu fodern yng Nghymru a hynny ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd.
Mae Rhan 1 yn rhoi trosolwg cyffredinol o fabwysiadu a sut beth ydyw yng Nghymru heddiw. Mae’n cynnwys dealltwriaeth o rôl mabwysiadu o ran cynllunio gofal ar gyfer rhai plant, a rolau a chyfrifoldebau’r gwahanol ymarferwyr sy’n rhan o hyn.
Mae Rhan 2 yn ymdrin â manylion y gwaith mabwysiadu drwy achosion gofal, a rôl y gweithiwr cymdeithasol gofal plant wrth ddangos yr angen i fabwysiadu.
Mae Rhan 3 yn cynnwys mwy o fanylion am sut rydym yn cynllunio ac yn sicrhau sefydlogrwydd i blant a rôl mabwysiadu yn hyn o beth.
Mae Rhan 4, Mabwysiadu yng Nghymru heddiw: Goblygiadau Ymarfer i Cafcass Cymru yn edrych ar sut mae mabwysiadu yng Nghymru yn moderneiddio a goblygiadau hyn i warcheidwaid wrth gynrychioli buddiannau gorau plant ar hyd eu hoes yn y llys.