Gwaith Taith Bywyd
Mae angen i bob plentyn yng Nghymru na allant dderbyn gofal gan eu teuluoedd geni ddeall hanes eu teulu a’u taith bywyd unigryw.
Gwneir Gwaith Taith Bywyd er mwyn cefnogi hunaniaeth plentyn a’i ymdeimlad o berthyn. Mae’n hybu hunan-barch a lles drwy ddarparu:
- Cyfle i gadw gwybodaeth ffeithiol bwysig, sy’n briodol i’w hoedran, am hanes ac amgylchiadau teuluol
- Ffordd o gadw atgofion wrth i blant dyfu’n hŷn a dechrau gofyn mwy o gwestiynau
- Strwythur i archwilio emosiynau a siarad am faterion poenus
Mae Fframwaith Y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn cynnwys cyfres o adnoddau ar gyfer pawb sy’n ymwneud â gofal plentyn – o ofalwyr maeth a mabwysiadwyr i weithwyr proffesiynol a rhieni geni – i helpu plentyn i wneud synnwyr o’i orffennol a deall ei sefyllfa bresennol i’w helpu i ffynnu wrth iddo dyfu.
Dewiswch yr opsiwn sy’n eich disgrifio orau i ddod o hyd i’r adnodd Taith Bywyd sy’n iawn i chi.