Blog
Darpar rieni mabwysiadol, mae hwn i chi
17 Hydref 2024
Mae James yn berson ifanc mabwysiedig. Yma, mae’n rhannu ei brofiadau ar hyd y daith fabwysiadu, ac yn chwalu rhai camsyniadau mabwysiadu cyffredin, er mwyn cynyddu dealltwriaeth ymhlith darpar rieni mabwysiadol.
Mythau a chamsyniadau mabwysiadu gorau – fy 10 uchaf
1) Cefais fy mabwysiadu’n swyddogol pan oeddwn bron yn ddwy oed, rhywbeth rwyf wedi bod yn agored iawn yn ei gylch erioed. Mae llawer o bobl yn tybio oherwydd fy mod wedi fy mabwysiadu, fy mod yn amddifad, ond mae yna lawer o sefyllfaoedd sy’n arwain at fabwysiadu.
2) Mae pobl yn meddwl bod mabwysiadu bob amser yn drist ac yn negyddol, ond rydw i wedi cael llawer o eiliadau o hapusrwydd a dathlu. Rydyn ni’n nodi fy ‘niwrnod mabwysiadu’ bob blwyddyn, gan ei ddefnyddio fel amser i ddod at ein gilydd fel teulu. Y llynedd, aethon ni am bryd o fwyd a gwylio ffilm, ac fe wnes i rannu dathliad y diwrnod ar gyfryngau cymdeithasol.
3) Mae’n bwysig i ddarpar rieni mabwysiadol ddeall nad yw pob person ifanc mabwysiedig yr un fath, ac nid oes un ffordd sy’n addas i bawb i’n cefnogi. Mae cymaint o amrywiaeth yn y gymuned fabwysiedig, ym mhob agwedd ar ein bywydau.
4) Mae llawer o ddarpar rieni mabwysiadol yn credu, os byddant yn mabwysiadu babi, y bydd y plentyn hwnnw’n rhydd rhag trawma, ond nid yw hyn bob amser yn wir, gall y trawma ddod i’r amlwg yn ddiweddarach. Fodd bynnag, mae llawer o adnoddau ar gael i helpu pobl i ddeall y mater cymhleth hwn.
5) Mae mabwysiadu yn golygu rhoi cartref i blentyn, nid dod yn rhiant yn unig. Mae’n wahaniaeth pwysig sy’n rhoi’r plentyn wrth wraidd y penderfyniad.
6) Gall sylwadau bach gael effaith fawr. Er enghraifft, pan fydd pobl wedi dweud “Beth am eich rhieni go iawn?” er efallai mai dim ond sylw ffwrdd-â-hi ydyw, gall gael effaith fawr iawn ar fy niwrnod. Mae addysgu pobl am y termau cywir i’w defnyddio yn bwysig iawn i mi.
7) Mae llawer o bobl yn cymryd yn ganiataol, os ydych chi’n cael eich mabwysiadu, fod gennych chi deulu bach – ond mae fy ‘nheulu sydd wedi’i ganfod’ yn fawr ac yn cynnwys fy nheulu mabwysiedig, a ffrindiau, sy’n frodyr a chwiorydd i mi.
8) Mewn sioeau teledu a ffilmiau, mae pobl sydd wedi’u mabwysiadu yn aml yn cael eu portreadu’n wael. Mae yna hefyd lawer o ddarluniau o bobl ifanc sydd wedi cael eu mabwysiadu fel pobl ddim yn neis iawn mewn cymdeithas. Mae’r ymddygiad hwn yn aml yn cael ei feio ar y plentyn sy’n cael ei fabwysiadu. Mae gwylio pethau fel hyn wedi brifo fy nheimladau weithiau.
9) Gall sioeau fel ‘Long Lost Family’ fod yn heriol i’w gwylio hefyd, gan eu bod yn adlewyrchu mabwysiadu ddegawdau yn ôl – nid mabwysiadu heddiw. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anoddach ceisio egluro sut y mae heddiw.
10) Yn yr ysgol, teimlaf nad oedd llawer o’m cyfoedion yn deall mabwysiadu, a phan oeddwn i’n iau, byddai rhai plant yn gwneud sylwadau cymedrig, sy’n deillio o ddiffyg dealltwriaeth yn fy marn i. Rwy’n meddwl bod angen gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o fabwysiadu mewn ystafelloedd dosbarth ac yng nghymuned ehangach yr ysgol.
Y prif beth y byddwn yn cynghori darpar rieni sy’n mabwysiadu i’w wneud yw gwneud llawer o ymchwil i’r broses fabwysiadu ac ôl-fabwysiadu – siarad â’r rhai sydd â phrofiad byw, gwrando ar bodlediadau a siarad â’r gwasanaeth mabwysiadu. Mae llawer o adnoddau ar gael i helpu ar hyd y ffordd – ac mae hyn yn ymestyn y tu hwnt i’r mabwysiadu ei hun – gan gynnwys cymorth i’r person ifanc hefyd.
Mae rhai o’r adnoddau’n cynnwys:
• Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol
• Dweud y Gwir yn Blaen: Straeon Mabwysiadu (Podlediad)
I bobl ifanc sydd wedi cael eu mabwysiadu, mae’n hynod bwysig cysylltu â phobl ifanc eraill sydd wedi cael profiadau tebyg.
Dyna pam mae’r grwpiau Connect a Connected – grŵp o bobl ifanc â phrofiad o ofal sy’n cyfarfod yn rheolaidd – wedi bod mor bwysig i mi. Er nad ydym bob amser yn siarad am fabwysiadu, mae’n dda cael pobl sy’n deall eich profiad.
Connected – Children & Young People