Cefnogaeth i ddod o hyd i gofnodion geni ac aelodau o'r teulu
Mae gan bob person mabwysiedig yr hawl i wybodaeth am eu geni o 18 oed ymlaen. Mae rhai pobl eisiau copi o'u cofnodion, efallai y bydd eraill am aduno â'u perthnasau. Rydym yma i'ch cefnogi wrth wneud penderfyniadau ac yn ystod y broses olrhain.
Mae'n ddyletswydd statudol arnom i roi eich cofnodion geni i chi yn rhad ac am ddim. Bydd ein hasiantaethau a'n partneriaid hefyd yn gallu eich cefnogi i gysylltu ag aelod o'r teulu geni. Gall y gwasanaeth hwn amrywio fesul asiantaeth ac efallai y bydd amser aros oherwydd y galw.
Mae yna hefyd lawer o sefydliadau ledled y DU a all helpu. Rydym wedi rhestru nifer o'r rhain isod.
Os ydych yn defnyddio gwasanaeth nad yw wedi’i restru ar gyfer olrhain neu gysylltu â gwybodaeth am enedigaeth neu berthynas, rydym yn cynghori eich bod yn sicrhau bod y gwasanaeth a ddewiswyd gennych wedi’i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) neu Ofsted yn Lloegr.
Byddwch yn ymwybodol y gall rhai sefydliadau godi tâl am eu gwasanaethau.
Chwilio ac Aduniad Mabwysiadu yw’r man cychwyn ar gyfer unrhyw un sy’n meddwl am olrhain neu gysylltu â pherthnasau biolegol a mabwysiedig neu olrhain mabwysiadu a ddigwyddodd yn y DU.
Ewch i wefan Chwilio ac Aduniad Mabwysiadu.
Mae ein cydweithrediad o wasanaethau mabwysiadu rhanbarthol, gwirfoddol ac elusennol yn cynnig nifer o wasanaethau i gefnogi oedolion mabwysiedig a pherthnasau geni i ddod o hyd i gofnodion a pherthnasau.
Cedwir manylion pob mabwysiad yng Nghymru a Lloegr gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol (GRO).
Mae’r GRO yn gweithredu’r Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu genedlaethol, sy’n caniatáu i bobl mabwysiedig a rhieni geni pobl mabwysiedig i gofrestru eu manylion a nodi a ydynt yn dymuno i eraill gysylltu â nhw ai peidio.
Mae’n costio i gael eich hychwanegu at y gofrestr. Mae’n £15 ar gyfer oedolion mabwysiedig neu £30 ar gyfer aelodau o’r teulu geni.
Nodwch mai dim ond rhwng y bobl hynny sydd wedi dewis rhoi eu manylion ar y gofrestr ac sydd wedi cofrestru eu parodrwydd i gael cyswllt y gall y gofrestr wneud cysylltiadau. Nid oes gwasanaeth olrhain na chyfryngol yn gysylltiedig â hi.
Cofrestrwch eich manylion.
Gall FamilyConnect helpu i ddod o hyd i atebion i gwestiynau am eich gwreiddiau a sut i fynd ati i gael mynediad at wasanaeth er mwyn ailgysylltu.
Ewch i wefan FamilyConnect.
Dyma’r unig asiantaeth o’i bath sydd wedi’i lleoli yng Nghymru ac sy’n gallu cynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n cynnig mynediad at gofnodion geni, olrhain a gwasanaethau cyfryngol.
Ewch i wefan Canfod Mabwysiadu.
Gwasanaethau cymorth mabwysiadu ar gyfer pobl a fabwysiadwyd, perthnasau geni pobl a fabwysiadwyd a disgynyddion y rhai a fabwysiadwyd cyn 30 Rhagfyr 2005.
Ewch i wefan CMB Counselling.
Yn elusen cymorth mabwysiadu, mae Father Hudson’s Care hefyd yn cynnig gwasanaethau olrhain a chyfryngu.
Ewch i wefan Father Hudson’s Care.
Nifer o wasanaethau i oedolion mabwysiedig a pherthnasau biolegol, gan gynnwys mynediad at gofnodion geni, cwnsela, olrhain a gwasanaethau cyfryngol.
Ewch i wefan Joanna North Associates.
Yn gweithredu ledled y DU, mae gan PAC-UK wasanaeth arbenigol sy’n darparu cymorth i oedolion sydd wedi’u mabwysiadu’n blant, ac ar gyfer oedolion sydd fel arall wedi’u lleoli’n barhaol fel plant. Mae hyn yn cynnwys mynediad at gofnodion mabwysiadu, olrhain, gwasanaethau cyfryngol a chwnsela.
Ewch i wefan PAC-UK.
Er na all gynorthwyo gyda cael mynediad at gofnodion geni, olrhain neu ddarparu gwasanaethau cyfryngol, mae gan CASA gyfeiriadur o sefydliadau a all ddarparu cymorth emosiynol i bobl sydd wedi’u mabwysiadu a pherthnasau geni sy’n dilyn y broses olrhain.
Cymerwch olwg ar y cyfeiriadur.
Eich hawliau cyfreithiol
Yn ôl cyfraith y DU, gall pobl sydd wedi’u mabwysiadu gael copi o’u tystysgrif geni wreiddiol a gwybodaeth o’u cofnodion geni unrhyw bryd ar ôl eu pen-blwydd yn 18 oed. Cedwir y cofnodion hyn yn ddiogel am o leiaf 100 mlynedd.
Os ydych eisoes yn gwybod eich manylion geni sylfaenol, gallwch gysylltu â’r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol (GRO) i gael copi o’ch tystysgrif geni wreiddiol yma.
Os nad ydych chi’n gwybod y manylion sylfaenol hynny, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais trwy’r ddolen uchod. Fel arall, gallwch anfon e-bost at atadoptions@gro.gov.uk neu ffonio 0300 123 1837.
Bydd y rhan fwyaf o’r wybodaeth fanwl am amgylchiadau mabwysiadu wedi’u cofnodi yn ffeiliau achos yr asiantaeth a leolodd y plentyn gyda’i rieni mabwysiadol.
Cedwir y cofnodion hyn gan eich asiantaeth fabwysiadu leol neu mae modd iddynt gael gafael arnynt.
Bydd y GRO yn gofyn i chi enwebu asiantaeth fabwysiadu i’ch cynorthwyo i gael mynediad at eich cofnodion. Yr asiantaeth fabwysiadu yn eich ardal chi fydd hon fel arfer, hyd yn oed os cedwir eich cofnodion yn rhywle arall.
Os gwnaed eich gorchymyn mabwysiadu cyn 12 Tachwedd 1975, mae gofyniad cyfreithiol i weithiwr cymdeithasol mabwysiadu gwrdd â chi cyn y gallwch gael mynediad i’ch cofnodion.
Os cawsoch eich mabwysiadu ar ôl y dyddiad hwnnw, nid oes rhaid i chi siarad â gweithiwr cymdeithasol mabwysiadu, ond gall fod yn ddefnyddiol iawn gwneud hynny. Gall gweithiwr cymdeithasol mabwysiadu eich cynghori a’ch cefnogi i ddeall y wybodaeth a’i rhoi yn ei chyd-destun hanesyddol. Gallant hefyd drafod pa opsiynau sydd ar gael os ydych am wneud ymholiadau pellach neu geisio aduniad ac felly angen gwasanaeth olrhain a chyfryngol.