Canllawiau Arfer Da ac Adnoddau i Weithwyr Proffesiynol
Adnoddau i gefnogi eich ymarfer
Comisiynwyd AFKA Cymru gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i ddatblygu 4 Canllaw Arfer Da mewn pedwar maes allweddol:
- Cyswllt
- Gweithio gyda Rhieni Geni
- Pontio a Chymorth Cynnar
- Cymorth Mabwysiadu.
Yn ogystal â chynnwys enghreifftiau o arfer gorau o bob cwr o Gymru, mae’r canllawiau’n ystyried yr ymchwil a’r dystiolaeth ddiweddaraf, gan gynnwys gwybodaeth o Astudiaeth Carfan Cymru.
Rydym yn mawr obeithio y byddant yn hysbysu ac yn cefnogi ymarferwyr o ran yr hyn sydd angen digwydd ar bob cam o daith plentyn i gael ei fabwysiadu ac ar ôl mabwysiadu, ac yn y pen draw yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant a theuluoedd.
Mae’r canllawiau i’w gweld ar ein Ap Arfer Da newydd yma
Mae gennym hefyd adnoddau y gellir eu lawrlwytho fel rhan o’r Pecyn Adnoddau a gynhyrchwyd gan AFKA Cymru ar ran y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, i gyd-fynd â’r Llinell Amserlen Meithrin Trawma a hyfforddiant Diwrnod Deall y Plentyn.
Anogir ymarferwyr i ddefnyddio’r deunyddiau hyn i gefnogi eu hymarfer.
Gellir dod o hyd iddynt yma